
Hi, I’m Shona – many of you will already know me, but for those who don’t,
I’ve worked alongside Kathy Gittins for ten years at the Welshpool shop that carries her name. She has become not only my employer but also my close friend, and I love her style and ethos. I was excited, if a little nervous, when she suggested to me that I could become the new owner of the business when she retired at the end of July.
It will be known as Kathy Gittins Welshpool and will carry on in a similar
vein, offering the quirky and individual clothes and accessories that have developed such a following from our many loyal customers. Kathy has stepped back to spend more time with her family and friends – I’m honoured to be one of them - but she’ll still generously give her time and expertise to guide and mentor me on this new journey. In the winter she supported me on my first buying trip, and I was proud to introduce my new Autumn/Winter collection when the shop reopened under my ownership in September. While the brands and labels will be familiar to regular clients, I curated this collection myself and it has a slightly new edge, reflecting my personality.
Unfortunately the reopening coincided with my cancer diagnosis. During my
treatment my amazing staff, all of whom are longstanding members of the Kathy
Gittins team here in Welshpool, stepped up to keep everything running smoothly – we’re not just a shop we’re also a very supportive community!
I’m really looking forward to the spring/ summer collection arriving and getting back to work, though not at first in a full time capacity - that will come when I’m ready. I’m eager to see my wonderful customers and friends again, but in the meantime I would like to sincerely thank you all. The shop has been thriving
and I very much appreciate everyone’s kind cards, gifts and messages and support.
​
Helo, Siona ydw i – mae llawer ohonoch yn fy adnabod yn barod, ond i’r rhai sydd ddim, rydw i wedi cydweithio efo Kathy Gittins am ddeng mlynedd yn siop y Trallwng sy’n dwyn ei henw. Mae hi wedi dod nid yn unig yn gyflogwr, ond hefyd yn ffrind agos i mi, a dwi’n caru ei steil a’i hethos. Roeddwn yn teimlo’n gyffrous, er ychydig yn nerfus pan awgrymodd Kathy y medrwn i fod yn berchennog newydd y busnes wedi iddi hi ymddeol ar ddiwedd mis Gorffennaf.
O hyn ymlaen, bydd y busnes yn cael ei adnabod fel ‘Kathy Gittins Welshpool’ a
bydd yn parhau ar drywydd tebyg iawn, gan gynnig y dillad ac ategolion hynod ac unigol sydd wedi dod mor boblogaidd ymhlith ein cwsmeriad ffyddlon a niferus. Mae Kathy wedi camu’n ôl i dreulio mwy o amser gyda’i theulu a’i ffrindiau – ac mae’n fraint i mi fod yn un ohonyn nhw – ond mi fydd hi’n dal i roi yn hael o’i hamser a’i harbenigedd i’m harwain a’m mentora ar y daith newydd hon. Yn y gaeaf, cefais ei chymorth ar fy nhaith brynu gyntaf, ac roeddwn yn falch o gyflwyno fy nghasgliad Hydref/Gaeaf newydd pan ail-agorodd y siop o dan fy mherchnogaeth i ym mis Medi.
Er y bydd y brandiau a'r labeli yn gyfarwydd i gleientiaid rheolaidd, fi roiodd y casgliad hwn at ei gilydd, ac mae’n cynnwys rhywfaint o elfen newydd sy'n adlewyrchu fy mhersonoliaeth i.
Yn anffodus roedd yr ail-agor yn cyd-daro â fy niagnosis o ganser. Yn ystod cyfnod fy nhriniaeth mae fy staff anhygoel, pob un ohonynt yn aelodau hirsefydlog o dîm Kathy Gittins yma yn y Trallwng, wedi camu i’r adwy i gadw pethau i redeg yn esmwyth – nid siop yn unig ydyn ni, rydym hefyd yn gymuned lle mae pobl yn cefnogi’i gilydd!
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddyfodiad y casgliad gwanwyn/haf a dychwelyd i’r gwaith, er nid yn llawn amser ar y dechrau – bydd hynny’n digwydd pan fyddaf yn
barod. Rwy’n edrych ymlaen at weld fy nghwsmeriaid a’m ffrindiau gwych eto, ond yn y cyfamser hoffwn ddiolch yn ddiffuant ichi gyd. Mae'r siop wedi bod yn ffynnu, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cardiau, anrhegion, negeseuon caredig, a’r gefnogaeth gan bawb.